Polisi Preifatrwydd

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Adra yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i Adra pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon. Mae Adra wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu.

Pryd ydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch a beth rydym yn ei gasglu

Rydym yn casglu ac yn prosesu data personol pan fyddwch yn:

  • creu cyfrif gyda ni.
  • ymweld â'n gwefan, ac yn defnyddio eich cyfrif i brynu nwyddau neu ddefnyddio talebau ar y ffôn, yn y siop neu ar-lein.
  • prynu ar-lein ac yn talu fel gwestai (ac yn yr achos hwn dim ond data'r taliad rydym yn ei gasglu).
  • gwneud archeb yn y siop neu dros y ffôn ond nad oes gennych gyfrif (neu pan nad ydych yn ei ddefnyddio).
  • ymwneud â ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • cysylltu â ni mewn unrhyw ddull i wneud ymholiad, cwyn ac ati.
  • cystadlu mewn cystadlaethau.

Mae'r math o ddata yr ydym yn ei gasglu yn cynnwys:

  • eich enw, eich cyfeiriad(au) bilio/cludo, archebion ac anfonebau, e-bost a rhif ffôn.
  • manylion unrhyw gwynion neu sylwadau a wnaethoch drwy e-bost, trwy'r ddesg gymorth ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol
  • hanes eich archebion a dewisiadau eich rhestr dymuniad, os oes gennych gyfrif gyda ni
  • gwybodaeth a gasglwyd trwy ddefnyddio cwcis yn eich porwr gwe.
  • gwybodaeth dechnegol am eich cysylltiad rhyngrwyd a'ch porwr, y math o ddyfais rydych yn ei defnyddio a'ch dewis iaith

Pryd bynnag yr ydym yn casglu neu yn prosesu eich data personol, dim ond cyhyd ag y mae ei angen ar gyfer y diben y'i casglwyd y byddwn yn ei gadw.

Nid ydym yn gwerthu unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd partïon. Dydyn ni byth wedi, a fyddwn ni byth yn gwneud. Fodd bynnag rydym yn rhannu eich data gyda chwmnïau megis cwmnïau cludiant a darparwyr gwasanaeth talu er mwyn i ni fedru darparu ein gwasanaethau i chi.

Sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol

Rydym eisiau rhoi'r profiad cwsmer gorau posibl i chi.

Mae cyfraith preifatrwydd data yn caniatáu hyn fel rhan o'n ddiddordeb dilys ni mewn deall ein cwsmeriaid a darparu'r lefelau gorau o wasanaeth.

Gallwch ofyn am ddileu eich data ond os byddwch yn dewis peidio â rhannu eich data personol gyda ni, neu yn gwrthod rhai hawliau cysylltu, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt.

Dyma sut rydym yn defnyddio eich data personol a pham:

  • I brosesu unrhyw archebion a wnewch ar ein gwefan, dros y ffôn neu yn y siop. Os nad ydym yn casglu eich data personol pan fyddwch yn talu, ni fyddwn yn gallu prosesu eich archeb.
  • Efallai y bydd angen trosglwyddo eich data i drydydd parti i gyflenwi neu ddanfon y nwydd yr ydych wedi ei archebu, a gallwn gadw'r manylion am gyfnod rhesymol wedyn i sicrhau bod yr archeb yn cael ei chwblhau ac i wneud ad-daliadau pe bai angen.
  • I ymateb i'ch ymholiadau, i geisiadau am ad-daliad ac i gwynion. Gallwn gadw cofnod o'r rhain at ddibenion cadw cofnodion mewnol ac i wneud gwelliannau i'n gwasanaethau.
  • I ddiogelu ein busnes a'ch cyfrif rhag twyll a gweithgareddau anghyfreithlon eraill. Mae hyn yn cynnwys defnyddio eich data personol i gynnal, diweddaru a diogelu eich cyfrif. Byddwn hefyd yn monitro eich gweithgarwch pori gyda ni i nodi a datrys unrhyw broblemau a diogelu uniondeb ein gwefan yn gyflym. Byddwn yn gwneud hyn i gyd fel rhan o'n diddordeb dilys e.e. drwy wirio eich cyfrinair pan fyddwch yn mewngofnodi a thrwy ddefnyddio dull awtomatig o fonitro cyfeiriadau IP i nodi mewngofnodion twyllodrus posibl o leoliadau annisgwyl.
  • I brosesu taliadau ac atal taliadau twyllodrus.
  • Gyda'ch caniatâd chi, i roi gwybod i chi drwy e-bost am nwyddau a gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys cynigion arbennig, gostyngiadau, digwyddiadau, cystadlaethau ac ati.
    Mae croeso i chi derfynu eich tanysgrifiad i'n cylchlythyr ar unrhyw adeg. Gellir gwneud hyn drwy fewngofnodi i'ch cyfrif a diweddaru eich dewisiadau neu trwy ddefnyddio'r ddolen 'dad-danysgrifio' ar waelod unrhyw e-bost hyrwyddo a anfonwyd gan Adra.
  • I weinyddu unrhyw wobrau neu gystadlaethau yr ydych wedi cystadlu ynddynt.

Diogelwch a Chwcis

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgelu dim amdanoch heb ganiatâd, rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu ac i sicrhau'r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein.

Rydym yn defnyddio Shopify i bweru ein gwefan a'n taliadau.

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Ffeiliau bach yw cwcis sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur pan rydych yn ymweld â thudalennau penodol ar y we a sy'n ein galluogi i gadw cofnod o beth sy'n eich basged, ac i'ch cofio pan rydych yn dychwelyd i'n gwefan.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein cynorthwyo i gynnig gwefan well i chi, trwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy'n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydych chi'n eu hoffi. Nid yw cwci mewn unrhyw ffordd yn rhoi mynediad i ni i'ch cyfrifiadur nac at unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw am y data rydych chi'n dewis ei rannu gyda ni. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os yw'n well gennych. Gall hyn eich atal rhag manteisio'n llawn ar y wefan.

Rhestr o’r cwcis a gasglwn

Mae'r tabl isod yn rhestru'r cwcis a gasglwn a pha wybodaeth y maent yn eu storio.

Cwcis sy'n Angenrheidiol ar gyfer Gweithredu'r Siop

Enw

Gweithred

_ab

Defnyddir mewn perthynas â mynediad i weinyddu.

_secure_session_id

Defnyddir mewn perthynas â mordwyo trwy siop.

cart

Defnyddir mewn perthynas â basged siopa.

cart_sig

Defnyddir mewn perthynas â basged siopa.

cart_ts

Defnyddir mewn perthynas â basged siopa.

checkout_token

Defnyddir mewn perthynas â basged siopa.

secret

Defnyddir mewn perthynas â basged siopa.

secure_customer_sig

Defnyddir mewn perthynas â mewngofnodi cwsmer.

storefront_digest

Defnyddir mewn perthynas â mewngofnodi cwsmer.

_shopify_u

Defnyddir i alluogi diweddaru gwyboaeth cyfrif cwsmer.


Adroddiadau a Dadansoddi

Enw

Gweithred

_tracking_consent

Dewisiadau tracio.

_landing_page

Tracio tudalennau glanio

_orig_referrer

Tracio tudalennau glanio

_s

Dadansoddi Shopify.

_shopify_fs

Dadansoddi Shopify.

_shopify_s

Dadansoddi Shopify.

_shopify_sa_p

Dadansoddi Shopify mewn perthynas â marchnata

_shopify_sa_t

Dadansoddi Shopify mewn perthynas â marchnata

_shopify_y

Dadansoddi Shopify.

_y

Dadansoddi Shopify.

SUT I GYSYLLTU A NI

Rydym yn gobeithio bod y Polisi Preifatrwydd hwn wedi bod o gymorth i egluro sut rydym yn defnyddio eich data personol a beth yw eich hawliau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb dylech gysylltu â ni.

Gall Adra newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd drwy ddiweddaru'r dudalen hon. Dylech edrych ar y dudalen hon o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.

Diweddariwyd 20 Hydref 2020