Oelcloth Carthen, Llwyd

Oelcloth Carthen, Llwyd
Oelcloth Carthen, Llwyd
Pris o: £25.50

Côd: AD-OILC-GY

Argaeledd: Mewn stoc

Oelcloth trawiadol wedi'i argraffu gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon mewn llwyd tywyll.

100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl sgleiniog o ansawdd uchel sy'n gwneud lliain bwrdd ymarferol a chwaethus sy'n hawdd i'w lanhau. Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes. 

Hefyd ar gael mewn coch, glas wy hwyaden a hufen.

Lled tua 142cm. Pan yn mesur eich bwrdd, cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon iddo hongian dros ochr y bwrdd yn daclus.

Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio. Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.

Dyluniwyd a chynhyrchwyd yn arbennig i Adra

* Blychau Gofynnol

Pris o: £25.50