Basged Siopa
Cipolwg
Gweld mwy

Anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes

Oelcloth carthen, hufen
Welsh Blanket Oil cloth, Welsh Table Cloth, Welsh Kitchen, Welsh Oilcloth
Welsh Blanket Oil cloth, Welsh Table Cloth, Welsh Kitchen, Welsh Oilcloth
Oelcloth carthen, hufen
Oelcloth carthen, hufen

Oelcloth carthen, hufen

SKU: AD-OILC-CR-1m

Ar Sêl

Oelcloth trawiadol wedi'i argraffu yn arbennig i Adra gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon mewn lliw hufen sy'n cyd-fynd â phopeth.

100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl sgleiniog o ansawdd uchel sy'n gwneud lliain bwrdd ymarferol a chwaethus sy'n hawdd i'w lanhau. Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes.

Lled tua 142cm. Pan yn mesur eich bwrdd, cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon iddo hongian dros ochr y bwrdd yn daclus.

Angen help i ddewis lliw eich oelcloth? Cliciwch yma i archebu sampl am ddim.

Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio. Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.

Dyluniwyd a chynhyrchwyd yn arbennig i Adra

Pris sêl

£27.00

  • - 20%
  • Pris arferol £21.60
    ( / )
    Cludiant am ddim i'r DU Ar archebion dros £60
    100% Cymreig Mae ein holl nwyddau yn dod o weithdai dylunwyr a chrefftwyr mwyaf talentog Cymru